I'r Seren.
1 Digio 'r wyf am ail ewyn
2 Duw a wyr meddwl pob dyn
3 O daw arnaf o'i chariad
4 f'enaid glaer fyned iw gwlad
5 pell yw i'm bryd ddirprwyaw
6 llatai drud iw lletty draw
7 Na rhoi gwerth i wrach serth-swydd
8 orllwyd taer er llateir wydd
9 Na dwyn i'm cylch dan-llestri
10 Na physt cwyr pan fo hwyr hi
11 Dros gyscu y dydd gartref
12 A cherdded nos dros y dref
13 Nim gwel neb nim adnebydd
14 Ynfyd wyf oni fo dydd
15 Mi a gaf yn ddiorafun
16 Rhag didro heno fy hun
17 Canhwyllau 'r gwr biau 'r byd
18 I'm hebrwng at ei hoew-bryd
19 [216a] Bendith ar enw'r Creawdr-ner
20 a wnaeth saerniaeth y ser
21 hyd nad oes dim oleuach
22 nor seren gron bur-wen bach
23 Cannaid or vchel geli
24 Cannwyll ehwybr-bwyll yw hi.
25 Ni ddiffydd pryd y gannwyll
26 Ai dwyn nis gellir o dwyll
27 Nis diffydd gwynt hynt hydref
28 Afrlladen o nen y nef.
29 Nis bawdd dwfr llwfr llifeiriaint
30 disgwyl-wraig descl saig y Saint
31 Ni ddeily y lleidr a'i ddwy-law
32 Gwaelawd cawg y Drindawd draw
37 Gwir fwcled y goleuni
38 Gwalabr haul gloew-wybr yw hi.
35 Golau yw ym-mhob ardal
36 Goldyn o aur melyn mal
39 Hi a ddengus i'm heb gudd
40 Em eur-falch lle mae Morfudd
41 Crist or lle mae ai diffyd
42 Ac ai gyr nid byr y byd
43 Gosgedd torth gann gyfann gu
44 i gyscod wybr i gysgu.
Dafydd ap Gwilym.